Bydd y cyntaf o ysbytai dros dro’r Llywodraeth yn agor yn Llundain heddiw (dydd Gwener, Ebrill 3) er mwyn parhau gyda’r frwydr yn erbyn y coronafeirws.
Mae disgwyl i Ysbyty Nightingale agor yng nghanolfan ExCel yn nwyrain Llundain ar gyfer cleifion Covid-19, tra bod dau ysbyty dros dro arall wedi cael eu cyhoeddi ym Mryste a Harrogate.
Mae disgwyl i ysbytai maes eraill agor yn Birmingham a Manceinion.
Yn y cyfamser mae’r Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock wedi rhoi addewid i gynnal rhagor o brofion gan osod targed o 100,000 o brofion coronafeirws bob dydd yn Lloegr erbyn diwedd mis Ebrill.
Fe fyddan nhw’n cynnwys profion i ddangos os oes gan rywun Covid-19 yn ogystal â phrofion i weld a oes rhywun wedi cael yr haint yn barod.
Yn ôl arbenigwyr mae profion yn bwysig er mwyn gallu monitro’r firws gyda’r rhai sydd eisoes wedi cael y firws yn gallu dychwelyd i’r gwaith.
Hyd yn hyn mae cyfanswm o 163,194 o bobl yn y Deyrnas Unedig wedi cael prawf am Covid-19.
Mae’r ffigurau diweddara yn dangos bod 2,921 o bobl wedi marw yn yr ysbyty ar ôl cael prawf positif am y coronafeirws yn y DU.