Mae Dyfodol i’r Iaith wedi dweud y byddan nhw’n parhau i weithredu dros y Gymraeg ystod y misoedd nesaf wrth i Gymru wynebu’r pandemig coronafeirws.
Bydd dogfen polisi’r mudiad iaith, Cynllunio Adferiad y Gymraeg yn cael ei lansio ar-lein ddydd Gwener (Ebrill 3) a bydden nhw’n rhannu’r testun gydag Aelodau’r Cynulliad a mudiadau sy’n gefnogol i’r Gymraeg.
Dywed fod holl argymhellion y ddogfen yn seiliedig ar yr egwyddor o gynllunio ieithyddol cynhwysfawr a chreu strwythurau addas i ymgymryd â’r gwaith.
Bydd Dyfodol i’r Iaith yn cyhoeddi cyfres o destunau trafod sy’n codi o Gynllunio Adferiad y Gymraeg “er mwyn annog trafodaeth ar beth yw blaenoriaethau ac anghenion y Gymraeg.”
Maent yn annog pobl i “feddwl, myfyrio a gobeithio am well byd” gan gynllunio ar gyfer adferiad y Gymraeg pan fydd y pandemig coronafeirws wedi pasio.