Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi gohirio’r ras am arweinyddiaeth y blaid tan y flwyddyn nesaf yn sgil y pandemig coronafeirws.
Roedd y blaid i fod i ddechrau’r broses o ffeindio olynydd i Jo Swinson, a gafodd ei gorfodi i sefyll i lawr wedi iddi golli ei sedd yn yr etholiad cyffredinol fis Rhagfyr, gydag arweinydd yn cael ei ethol fis Gorffennaf.
Ond dywed y blaid ei bod yn rhoi’r wlad yn gyntaf tra mae’r Deyrnas Unedig yn delio gyda’r “argyfwng mwyaf ers yr Ail Ryfel Byd,” wrth ohirio’r ras tan fis Mai 2021.
Wrth gyhoeddi fod y blaid yn gohirio’r ras am arweinyddiaeth y blaid, dywedodd Llywydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Mark Pack: “Mae ein plaid ni wedi penderfynu bod yn rhaid i ni roi’n holl sylw i ddelio gydag effaith y coronafeirws.
“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wastad wedi rhoi’r wlad yn gyntaf ac rwy’n falch o’r rhan rydym wedi ei chwarae wrth gefnogi gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gofalwyr a phobol hunangyflogedig.
“Byddwn yn parhau i graffu polisïau’r Llywodraeth ac ymladd dros y bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas.”