Mae gwledydd Prydain yn arwain y ffordd wrth geisio dod o hyd i frechlyn ar gyfer y coronafeirws, yn ôl Downing Street.

Mae Llywodraeth Prydain wedi cyfrannu £210m at gronfa newydd, yn ôl cyhoeddiad gan y prif weinidog Boris Johnson o gyfarfod arweinwyr gwledydd y G20.

Mae’n dweud bod meddygon ac ymchwilwyr gwledydd Prydain “ar flaen y gad” yn y frwydr, gan alw wledydd erall y byd i ymuno yn yr ymdrechion i drechu’r feirws.

Fe ddaeth ei gyhoeddiad wrth iddo ategu’r alwad ar i bawb aros yn eu cartrefi yn unol â chyngor meddygol.

Mae gwledydd y G20 wedi addo adnoddau ariannol a chyfarpar i helpu’r frwydr.

G20

Y cyfarfod heddiw (dydd Iau, Mawrth 26) yw’r cyntaf ers i’r pandemig ddechrau.

Cafodd effeithiau ariannol y feirws eu trafod yn ystod y cyfarfod hefyd, wrth i sawl gwlad wynebu dyfodol economaidd ansicr.