Fydd neb yn gwerthu’r Big Issue ar strydoedd gwledydd Prydain o’r wythnos nesaf ymlaen, wrth i Lywodraeth Prydain geisio atal y coronafeirws rhag ymledu.
Wrth i bobol gadw draw o strydoedd trefi a dinasoedd, mae’n un o nifer o gamau mae Llywodraeth Prydain yn eu cymryd i warchod gwerthwyr y cylchgrawn, sy’n aml yn ddigartref.
Fydd dim copïau papur ar gael ar y strydoedd o’r wythnos nesaf ymlaen, ond bydd fersiwn ddigidol ar gael ar y we, gyda hanner yr arian yn cael ei roi i werthwyr.
Bydd modd i bobol danysgrifio i dderbyn y cylchgrawn yn eu cartrefi.
Mae rhwng 1,500 a 2,000 o bobol yn gwerthu’r cylchgrawn ar strydoedd gwledydd Prydain, ac mae oddeutu 60,000 o gopïau’n cael eu gwerthu bob wythnos.
Mae gwerthwyr at ei gilydd yn derbyn hyd at £5m y flwyddyn ers 29 o flynyddoedd, gyda 200m o gopïau wedi’u gwerthu gan fwy na 100,000 o bobol.