Mae pobol yn cael eu hannog i siopa’n gyfrifol yn sgil coronavirus, wrth iddyn nhw brynu gormod o nwyddau ar yr un pryd mewn panig.

Mae aelodau Consortiwm Manwerthu Prydain weid anfon llythyr ar y cyd at gwsmeriaid yn eu hannog nhw i gydweithio er mwyn sicrhau bod digon o fwyd ar gael i bawb.

Maen nhw’n gweithio “rownd y rîl” er mwyn helpu cwsmeriaid, yn ôl y Consortiwm.

Apêl

“Gofynnwn i bawb roi ystyriaeth i’r ffordd maen nhw’n siopa,” meddai’r llythyr.

“Rydym yn deall eich pryderon, ond gall prynu mwy nag sydd ei angen olygu weithiau y bydd eraill heb nwyddau.

“Mae digon i bawb os ydyn ni’n cydweithio.

“Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau ein bod ni’n gofalu am y teulu, ffrindiau a chymdogion.

“Gyda’n gilydd, byddwn ni’n gofalu am y sawl sydd o’n cwmpas ni a’r rhai sy’n oedrannus, yn fregus neu’n dewis aros adref.”

Cefnogaeth Llywodraeth Prydain

“Dw i’n cefnogi’n llwyr yr alwad gan fanwerthwyr bwyd Prydeinig i ni gyd roi ystyriaeth i’r ffordd rydyn ni’n siopa a gofalu am ein cymdogion,” meddai George Eustice, Ysgrifennydd yr Amgylchedd San Steffan.

“Drwy gydweithio, mae ein prif archfarchnadoedd wedi rhoi sicrwydd fod digon o stoc ar gael a dylai pobol bryu cynnyrch fel y bydden nhw fel arfer yn ei wneud.

“Rydym yn cysylltu’n gyson â’r diwydiant a manwerthwyr bwyd, ac yn parhau i fonitro eu cadwyni cyflenwi ac yn cymryd yr holl gamau angenrheidiol er mwyn sicrhau bod gan gwsmeriaid y bwyd a’r cyflenwadau sydd eu hangen arnyn nhw.”