Bydd Uwch Gynghrair Lloegr yn cynnal cyfarfod brys heddiw (dydd Gwener, Mawrth 13), ar ôl i garfan clybiau Arsenal a Chelsea gael eu hynysu wedi i reolwr Arsenal Mikel Arteta ac asgellwr Chelsea Callum Hudson-Odoi brofi’n bositif am coronafeirws.
Mae gemau’r penwythnos mewn perygl o gael eu canslo yn sgil y datblygiadau ac mae gem Arsenal yn erbyn Brighton eisoes wedi cael ei ohirio.
Mae tri o chwaraewyr Caerlŷr wedi cael eu hynysu tra bod gan Manchester City un chwaraewr wedi ei ynysu.
Dywed yr Uwch Gynghrair, a oedd wedi dweud ddydd Iau (Mawrth 12) y byddai gemau’n cael eu cynnal yn ôl yr arfer, eu bod am “gynnal cyfarfod brys rhwng y clybiau i drafod gemau.”
Gohirio Ewro 2020?
Mae UEFA yn cysidro gohirio twrnamaint Ewro 2020, sydd i’w gynnal eleni, tan y flwyddyn nesaf.
Mae corff llywodraethu pêl-droed Ewropeaidd wedi galw cyfarfod gyda’i 55 aelod wythnos nesaf i drafod y mater.
Yn barod, mae gemau Pencampwriaeth y Pencampwyr rhwng Manchester City a Real Madrid a Juventus yn erbyn Lyon wedi cael eu gohirio.
Mae holl garfan Real Madrid wedi ei hynysu, tra bod chwaraewr Juventus Daniele Rugani wedi profi’n bositif am y coronafeirws.
Mae Cymdeithas bêl-droed Iwerddon wedi cyhoeddi bod holl gemau pêl-droed o dan eu hawdurdodaeth wedi eu gohirio tan Fawrth 29.
Ni fydd gêm gyfeillgar Cymru yn erbyn yr Unol Daleithiau’n cael ei chynnal ar Fawrth 30 mwyach chwaith.