Fe fydd y Prif Weinidog Boris Johnson yn cadeirio cyfarfod o’r pwyllgor argyfyngau Cobra heddiw (dydd Llun, Mawrth 2) i drafod y coronavirus wrth i nifer y bobol sydd wedi’u heintio godi i 36.

Mae disgwyl i Boris Johnson rybuddio gweinidogion y bydd y firws Covid-19 yn cyflwyno “her sylweddol” i’r wlad wrth iddo gwblhau cynllun y Llywodraeth yn San Steffan i ymateb i’r firws.

Roedd yr Alban wedi cofnodi’r achos cyntaf o’r coronavirus tra bod Lloegr wedi cadarnhau bod 12 o bobol eraill wedi cael diagnosis o’r firws ddydd Sul (Mawrth 1). Hyd yn hyn, dim ond un achos o’r firws sydd wedi’i gadarnhau yng Nghymru, a hwnnw yn Abertawe.

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock wedi dweud ei bod yn “anochel” y bydd  y coronavirus yn parhau i ledu.

Mae Boris Johnson wedi wynebu beirniadaeth am aros tan ddydd Llun cyn cadeirio cyfarfod am y firws ond dywedodd bod y Llywodraeth a’r Gwasanaeth Iechyd wedi paratoi ar gyfer y firws. Ymhlith y camau fydd yn cael eu trafod mae atal cyfarfodydd cyhoeddus, canslo gemau pêl-droed a chau ysgolion os yw’r sefyllfa’n gwaethygu.

Mae nifer y bobol sydd wedi marw o’r firws ar draws y byd wedi cynyddu i fwy na 3,000 ac mae bron i 90,000 o achosion wedi’u cadarnhau.