Mae’r heddlu’n trin marwolaeth dynes 36 oed ar draffordd M25 ger Llundain fel achos o daro a ffoi.

Cafwyd hyd i gorff y ddynes 36 oed rhwng cyffordd wyth (Reigate) a chyffordd 10 (Wisley) yn Surrey toc ar ôl 6.15yb.

Mae’r heddlu’n credu ei bod hi’n cerdded ar y pryd ond maen nhw’n ceisio gwybodaeth am yr hyn oedd wedi digwydd iddi.

Mae ei theulu wedi cael gwybod, ac mae’r ffordd ar agor ers oddeutu 10 o’r gloch.