Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Harry Gregg, “arwr Munich”, yn ei angladd fore heddiw (dydd Gwener, Chwefror 21).
Cafodd y brif deyrnged yn angladd cyn-golwr Manchester United a chyn-reolwr Abertawe yng Ngogledd Iwerddon ei rhoi gan y cyflwynydd chwaraeon Stephen Watson.
Roedd 44 o bobol ar yr awyren a blymiodd i’r ddaear ym Munich yn 1958, ac fe fu farw 23 ohonyn nhw, gan gynnwys wyth aelod o dîm pêl-droed Manchester United.
Roedd Harry Gregg yn un o’r goroeswyr ac fe aeth ati i dynnu pobol eraill o’r gweddillion wrth i’r awyren losgi.
Aeth yn ei flaen i reoli tîm Abertawe rhwng 1972 a 1975.
‘Fe gostiodd Munich yn ddrud iddo’
“Fe wnaeth e achub nifer o’i gyd-chwaraewyr, gan gynnwys Dennis Viollet, Jackie Blanchflower, y bos Matt Busby a Bobby Charlton…
“Fe gostiodd enwogrwydd Harry Gregg oherwydd gwrthdrawiad awyr Munich yn ddrud – fe daflodd gysgod dros ei fywyd y cafod e’n anodd i’w waredu, ond fe gariodd e’r cysgod gyda fe ag urddas.
“Roedd Harry yn benderfynol, er bod Munich wedi siapio’i dynged, na fyddai’n siapio’i fywyd.
“Roedd gweithredodd Harry ar y llain lanio y diwrnod hwnnw yn golygu ei fod e wedi mynd y tu hwnt i fawredd y campau.
“Cafodd ei alw’n Arwr Munich, ond roedd e bob amser eisiau cael ei gofio’n syml iawn fel pêl-droediwr a hyfforddwr o fri.
“Yn ei eiriau ei hun, ‘Fi yw Harry Gregg o 34 Windsor Avenue yn Coleraine a chwaraeodd bêl-droed – ro’n i’n ddefnyddiol ambell ddiwrnod ac yn wastraff ar ddiwrnodau eraill. Dyna sut dw i am gael fy nghofio. Nid am rywbeth ddigwyddodd ar amrantiad”.
“Harry Gregg. Am ddyn, am fywyd nodedig.”