Mae ymgyrchwyr diogelwch ffyrdd yn galw am wahardd gyrwyr rhag yfed alcohol o gwbl yn sgil adroddiad am gynnydd yn y damweiniau sy’n ymwneud ag yfed a gyrru.
Mae ystadegau newydd gan yr Adran Drafnidiaeth yn ddangos cynnydd o 4% – sy’n golygu bod yfed a gyrru wedi digwydd mewn un o bob 20 o ddamweiniau ffordd ym Mhrydain.
Mae amcangyfrifon yn dangos bod 5,900 o ddamweiniau yn ymwneud ag o leiaf un gyrrwr dros yr uchafswm alcohol yn 2018, sydd 200 yn fwy na’r 12 mis blaenorol.
Cafodd 240 o bobl eu lladd yn y damweiniau hyn.
Gostyngodd Llywodraeth yr Alban y terfyn alcohol ar gyfer gyrwyr o 80 miligram fesul 100 mililitr o waed i 50 miligram ym mis Rhagfyr 2014, ond mae’r lefel gyfreithiol yng ngweddill y Deyrnas Unedig yn parhau i fod yn 80 miligram.
Meddai Josh Harris, cyfarwyddwr ymgyrchoedd yr elusen diogelwch ffyrdd Brake:
“Gyda miloedd o bobl yn dal i gael eu lladd a’u hanafu yn nwylo gyrwyr sy’n yfed a gyrru bob blwyddyn, mae angen i ni gymryd camau priodol,” meddai.
“Rydyn ni’n galw ar y Llywodraeth i ostwng y terfyn i ddim gan ei gwneud hi’n glir i yrwyr nad ydy diferyn o alcohol tra tu ôl i’r llyw yn ddiogel.
“Angen newid y diwylliant”
“Mae angen newid y diwylliant o amgylch yfed a gyrru ac mae hynny’n dechrau gyda newid y terfyn. Mae’r terfyn presennol yn rhoi argraff ffug ei bod yn dderbyniol cymysgu alcohol a gyrru – ni allai hyn fod ymhellach o’r gwir.
“Mae hyd yn oed ychydig bach o alcohol yn effeithio’n ddramatig ar eich gallu i yrru’n ddiogel a dylai’r gyfraith adlewyrchu’r realiti hwn.”
Bydd y ffigyrau terfynol am ddamweiniau yfed a gyrru yn cael eu cyhoeddi fis Awst.