Mae awyren yn cludo 200 o drigolion gwledydd Prydain o ddinas Wuhan yn Tsieina wedi glanio ar safle’r awyrlu yn Brize Norton yn Swydd Rydychen.

Mae 811 o bobol bellach wedi marw o ganlyniad i coronavirus.

Dyma’r ail hediad a’r un olaf i’w drefnu gan Lywodraeth Prydain, ac roedd yr awyren yn cludo’u staff nhw a meddygon y lluoedd arfog.

Bydd yr holl deithwyr yn cael eu cludo i ganolfan ym Milton Keynes, lle byddan nhw’n cael eu cadw am 14 diwrnod er mwyn sicrhau nad yw’r firws yn lledu.

Does dim perygl i drigolion Milton Keynes, yn ôl yr awdurdodau, gan fod unrhyw un â symtomau wedi cael eu hatal rhag teithio a phe bai unrhyw un yn cael eu taro’n wael yn ystod y daith, fe fydden nhw’n cael eu cludo i’r ysbyty ar ôl glanio.