Mae un o’r gweinidogion benywaidd sy’n wynebu’r posibilrwydd o golli ei swydd yng nghabinet Llywodraeth Prydain yn dweud y dylai cydraddoldeb fod yn “norm” yn y gweithle.

Mae disgwyl i Boris Johnson, prif weinidog Prydain, fynd ati dros y penwythnos i ad-drefnu’r cabinet, gyda swyddi hyd at bump o fenywod yn y fantol.

Un o’r rheiny yw Andrea Leadsom, yr Ysgrifennydd Busnes, sydd wedi beirniadu gweithleoedd sydd â mwyafrif o ddynion.

Daw ei sylwadau mewn erthygl yn y Telegraph wrth drafod aelodau benywaidd o fyrddau rheoli rhai o brif gwmnïau gwledydd Prydain sy’n ymddangos ar restr FTSE.

“O weithio yn y ddinas yn y 1990au, fe welais drosof fy hun sut gall amgylchfyd lle mae dynion yn dominyddu gwtogi gyrfaoedd,” meddai’r aelod seneddol Ceidwadol dros Dde Swydd Northampton.

“Wrth gwrs, mae pethau wedi newid yn sylweddol yn y blynyddoedd ers hynny.

“Ond dim ond trwy daflu goleuni ar ymddygiad annerbyniol a thynnu sylw at yr hyn yw e y bydd gweithleoedd yn meithrin awyrgylch a diwylliant sy’n gwerthfawrogi dynion a menywod yr un faint â’i gilydd.”

Ymhlith y gweinidogion benywaidd eraill sy’n wynebu colli eu swyddi mae Therese Coffey (Gwaith a Phensiynau), Theresa Villiers (yr Amgylchedd), Esther McVey (Tai) a Liz Truss (Masnach Ryngwladol).

Yr unig fenywod sy’n ddiogel, yn ôl adroddiadau, yw’r Ysgrifennydd Cartref Priti Patel a’r Farwnes Evans, Arweinydd Tŷ’r Arglwyddi.