Mae’r Swyddfa Dywydd yn darogan y bydd problemau teithio drwy wledydd Prydain dros y penwythnos, gydag awyrennau, trenau a chychod yn cael eu heffeithio.

Dywed hefyd ei bod yn debygol y bydd toriadau i gyflenwadau pŵer.

Mae rhybudd melyn i ogledd-orllewin Prydain heddiw (dydd Sadwrn, Chwefror 8), ac mewn ardaloedd eraill yfory (dydd Sul, Chwefror 9).

“Bydd Storm Ciara yn dod â gwyntoedd cryfion a glaw trwm ar draws Prydain y penwythnos hwn ac rydym wedi darparu detholiad o rybuddion tywydd er mwyn rhoi amser i bobl baratoi am effaith y storm,” meddai Frank Saunders, pennaeth meteoroleg y Swyddfa Dywydd.