Mae Ceidwadwyr blaenllaw wedi mynegi pryder o fewn y blaid am gynlluniau Llywodraeth Prydain i roi rôl i gwmni technoleg Huawei yn rhwydwaith 5G gwledydd Prydain.
Yn ôl Iain Duncan Smith, cyn-arweinydd y blaid, mae pryderon ymhlith y pleidiau eraill hefyd.
Ond yn ôl yr Unol Daleithiau, gallai’r penderfyniad i gyfyngu rôl y cwmni o Tsienia fygwth cytundebau masnach rhwng Prydain a’r Unol Daleithiau ar ôl Brexit.
Mae llythyr gan y Ceidwadwyr blaenllaw, sy’n cynnwys Owen Paterson, David Davis a Damian Green, yn nodi eu bod nhw am geisio ateb gwell i’r sefyllfa.
Maen nhw’n awyddus i gyfyngu rôl cwmnïau “peryglus” yn y cynllun, a hynny yn sgil record gwledydd fel Tsieina a Rwsia ar hacio systemau technoleg am resymau gwleidyddol.
Mae Mike Pence, Dirprwy Arlywydd yr Unol Daleithiau, yn gwrthod dweud ar hyn o bryd a fyddai’r cynllun yn golygu y byddai’r Unol Daleithiau’n gyndyn o greu cytundebau masnach gyda Llywodraeth Prydain ar ôl Brexit.
Mae lle i gredu bod Donald Trump a Boris Johnson, prif weinidog Prydain, wedi ffraeo mewn sgwrs ffôn am y mater.