Mae’r darlledwr adnabyddus Adrian Chiles wedi beirniadu sylwadau colofnydd o’r Guardian fod dysgu Cymraeg yn ‘pointless’ – gan ddweud ei fod ef ei hun wedi dysgu ychydig o’r iaith.

“Mae gen i lawer o ffrindiau sy’n siarad Cymraeg ac sydd wedi cael eu tramgwyddo gan sylw diofal gan gyd-golofnydd yn y papur hwn,” meddai Adrian Chiles mewn erthygl yn y Guardian.

Roedd yn cyfeirio at sylw gan Zoe Williams yn dweud bod rhywbeth mor ddibwrpas â ‘bwyta caws bwthyn neu ddysgu Cymraeg’.

“Mae dysgu Cymraeg wedi dangos i mi y pwynt o ddysgu iaith fel diben ynddo’i hun,” meddai. “Allwch chi ddim mynd ati o ddifrif i ddysgu iaith heb ymgolli’n llwyr ynddi ar y pryd, a dw i wedi cael yr holl broses yn brofiad anhygoel o gysurlon.

“Cyn gynted ag ydych chi’n ffurfio unrhyw frawddeg mewn iaith newydd, dw i’n siŵr eich bod yn cychwyn gweld y byd o ongl newydd, trwy lygad newydd.

“A pham ydym ni’r Saeson fel pe baem ni’n teimlo y gallwn wneud hwyl am y Gymraeg yn ddigerydd? Ai am ein bod ni’n meddwl ei bod yn druenus o ymylol, neu oherwydd ein bod yn ei gweld hi’n ffynnu, ac am ryw reswm anhysbys, ein bod ni’n teimlo hynny fel bygythiad?”