Fe wnaeth Prydeinwyr sy’n ffoi rhag yr haint coronavirus yn Wuhan yn Tsiena gyrraedd ysbyty Arrowe Park, rhwng Caer a Lerpwl, neithiwr.
Fe fyddan nhw’n treulio’r 14 diwrnod nesaf mewn cwaratin.
Cafodd y confoi o chwe bws eu harwain gan yr heddlu i gefn yr ysbyty ac i floc llety yno.
Roedd yr 83 o Brydeinwyr a 27 o ddinasyddion gwledydd eraill wedi hedfan o Wuhan i faes awyr RAF Brize Norton yn Swydd Rhydychen ddoe.
Yn y cyfamser mae gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Lloegr yn chwilio am y rheini sydd wedi bod mewn cysylltiad â’r ddau o bobl sydd wedi cael diagnosis o’r coronavirus ym Mhrydain.
Roedd y ddau glaf – aelodau o’r un teulu – wedi bod yn aros mewn gwesty yng Nghaerefrog pan aethant yn sâl. Maen nhw’n cael eu trin mewn canolfan arbenigol yn Newcastle upon Tyne.