Mae British Airways wedi gwahardd pob awyren rhag trafeilio i ac o Tsieina.
Daw hyn wedi i’r Swyddfa Dramor wneud trefniadau i ddychwelyd dinasyddion Prydeinig o Tsieina a rhybuddio yn erbyn trafeilio i’r wlad.
Gallai Prydeinwyr gael dechrau hedfan yn ôl mor fuan â dydd Iau (Ionawr 30).
Dywed datganiad gan British Airways: “Rydym wedi gwahardd hedfan rhwng Tsieina yn dilyn cyngor gan y Swyddfa Dramor.”
“Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra mae hyn yn achosi, ond diogelwch ein cwsmeriaid yw ein blaenoriaeth.”
Mae nifer y bobol sydd wedi marw yn Tsieina wedi codi i 132, gyda 6,000 wedi cael eu heffeithio gan yr argyfwng iechyd.