Mae Sajid Javid, Canghellor San Steffan, wedi lansio darn 50c i nodi ymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd yr wythnos nesaf.
Mae disgwyl i Brydain adael ar Ionawr 31 ar ôl i’r Bil Ymadael gael sêl bendith Brenhines Loegr.
Roedd disgwyl i’r darnau gael eu cyhoeddi ar Hydref 31, dyddiad disgwyliedig gwreiddiol Brexit ond fe fu’n rhaid gohirio’r lansiad yn sgil yr oedi yn y broses ymadael.
Bydd y darnau arian yn dwyn y geiriau “heddwch, llewyrch a chyfeillgarwch â phob gwlad” ynghyd â’r dyddiad, Ionawr 31.
“Mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn drobwynt yn ein hanes ac mae’r darn arian hwn yn nodi dechrau’r bennod newydd hon,” meddai Sajid Javid.
Bydd oddeutu tair miliwn o ddarnau ar gael o ddydd Gwener (Ionawr 31), a saith miliwn yn rhagor ar gael yn ddiweddarach eleni.
Bydd un o’r darnau cyntaf yn cael ei gyflwyno i’r prif weinidog Boris Johnson yr wythnos hon, a bydd drysau’r Bathdy Brenhinol ar agor i’r cyhoedd am 24 awr yr wythnos hon er mwyn i bobol gael torri eu darnau Brexit eu hunain.