Mae’r Unol Daleithiau’n “barod iawn” i sefydlu cytundeb masnach gyda Llywodraeth Prydain ar ôl Brexit, yn ôl aelod o lywodraeth y wlad.
Mae Steven Mnuchin, Ysgrifennydd Trysorlys yr Unol Daleithiau, yn Llundain ar hyn o bryd i gyfarfod â Sajid Javid, Canghellor Prydain.
Mae’n dweud y bydd yr Unol Daleithiau “yn neilltuo llawer o adnoddau” er mwyn sicrhau bod cytundeb masnach yn digwydd eleni.
“Rydyn ni wedi dweud mai ein nod yw ceisio cwblhau’r ddau gytundeb masnach eleni – a dw i’n credu, o safbwynt yr Unol Daleithiau, ein bod ni’n barod iawn i neilltuo llawer o adnoddau,” meddai.
“Os oes gan y Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau economïau tebyg gyda ffocws sylweddol ar wasanaethau, bydd hon yn berthynas bwysig iawn.
“Ac mae hyn yn mynd yn ôl at yr hyn ddywedodd yr arlywydd [Donald Trump] yn ystod yr ymgyrch, sef y bydden nhw [Prydain], ar ôl Brexit, ar frig y rhestr.”