Mae academydd blaenllaw yn yr Alban yn wfftio honiadau aelod seneddol Ceidwadol yn yr Alban fodgwneud Gaeleg yn brif iaith addysg ynysoedd y wlad yn debygol o niweidio addysg plant, yn ôl papur newydd The Scotsman.

Yn ôl Liz Smith, llefarydd addysg Ceidwadwyr yr Alban, mae gwneud Gaeleg yr Alban yn brif iaith addysg ar ynys Comhairle nan Eilean Siar (yr Ynys Hir) “yn gam pryderus dros ben”.

Bydd yn rhaid i rieni “optio allan” os nad ydyn nhw am i’w plant gael eu dysgu’n bennaf drwy gyfrwng yr iaith frodorol.

Ond mae Dr Thomas H. Bak o Brifysgol Caeredin yn gwrthod derbyn sylwadau Liz Smith, gan ddweud eu bod nhw’n “gwrthddweud corff cynyddol enfawr o dystiolaeth sy’n awgrymu i’r gwrthwyneb”.

Mae’n dweud mewn llythyr yn papur newydd fod manteision o allu siarad dwy iaith, derbyn addysg yn y ddwy iaith a defnyddio’r ddwy iaith o ddydd i ddydd.

“Mae llu o dystiolaeth sy’n awgrymu bod plant dwyieithog yn perfformio’n well na phlant uniaith mewn profion deallusol ac yn wir, mae rhai o’r profion hyn wedi cael eu cynnal mewn addysg cyfrwng Gaeleg,” meddai yn ei lythyr.

“Fod bynnag, dydy’r effeithiau hynny ddim wedi’u cyfyngu i blentyndod, ac maen nhw’n parhau drwy gydol bywyd gan arwain at heneidddio deallusol arafach, oedi proses ddementia a gwella’n gynt yn ddeallusol ar ôl cael strôc.”

Ac mae’n dweud bod Gaeleg yr Alban wedi’i defnyddio i brofi bod gallu siarad yr iaith yn helpu lefelau canolbwyntio siaradwyr.

Parhad yr iaith a’r heriau

Yn ôl yr academydd, mae Gaeleg yr Alban “yn rhan bwysig a chyfoethog o ddiwylliant yr Alban”.

“Mae hefyd yn wir fod perfformiad addysg ymhlith siaradwyr dwyieithog yn uchel ar y cyfan, gan gynnwys yn y gymuned Aeleg.

“Ond y brif her o hyd yw recriwtio digon o athrawon cyfrwng Gaeleg sydd, wrth reswm, yn destun gofid mawr ymhlith y gymuned Aeleg.”