Mae’r llywodraeth ddatganoledig yn Belfast wedi gwrthod cynllun Brexit Boris Johnson.
Cafodd y cynllun ei wrthod wedi trafodaeth ar y mater am bron i dair awr yng Ngogledd Iwerddon.
Dyma un o’r brif ddadleuon i gael eu cynnal yn Stormont ers i’r llywodraeth ddatganoledig gael ei hadfer yn gynharach y mis hwn ar ôl bod yn segur am dair blynedd.
Mae dwy brif blaid y llywodraeth, y DUP a Sinn Fein, yn gwrthwynebu cynllun ymadael yr Undeb Ewropeaidd am resymau gwahanol.
Dywedodd dirprwy brif weinidog Sinn Fein Michelle O’Neill: “Mae’n rhaid i ni weithio gyda’n gilydd i orchfygu’r heriau sydd wedi cael eu gorfodi arnom ni oherwydd Brexit.
“Nid yw’r Cynulliad yma wedi rhoi caniatâd i Lywodraeth Prydain ddeddfwriaethu ar ein rhan.”
Ni fydd penderfyniad yr aelodau yn effeithio bwriad y Llywodraeth i adael yr Undeb Ewropeaidd (UE) ar ddiwedd y mis.
Mae’r DUP, ar y cyfan, o blaid Brexit ond mae’n gwrthwynebu cynllun Boris Johnson oherwydd pryderon y gallai orfodi system dollau ar nwyddau sy’n teithio rhwng Cymru, Lloegr a’r Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae cenedlaetholwyr a busnesau’n awyddus i sicrhau bod y ffin yn Iwerddon yn parhau ar agor ac mae’r rhan fwyaf o blaid aros o fewn yr UE.
The DUP is largely pro-Brexit, but opposes Prime Minister Boris Johnson’s plan over fears it could impose customs checks on goods travelling between England, Scotland or Wales and Northern Ireland.