Cafodd y clwb wybod ddoe (dydd Sadwrn, Ionawr 18) y byddan nhw’n disgyn o’r Uwch Gynghrair Rygbi ar ôl colli 35 o bwyntiau a chael dirwy o £5.36m am fynd y tu hwnt i’r uchafswm cyflogau.
Maen nhw wedi ennill y gynghrair bedair gwaith yn ystod y pum tymor diwethaf, ac roedden nhw’n wynebu gorfod torri eu cyflogau o £2m er mwyn osgoi cael eu cosbi.
Mae’r cyfarwyddwyr wedi ymddiheuro am y sefyllfa, gan gyfaddef iddyn nhw wneud “camgymeriadau”, ac maen nhw’n dweud y byddan nhw’n “ailadeiladu hyder ac ymddiriedaeth”.
Mae cadeirydd newydd eisoes yn ei le, ac mae ymchwiliad ar y gweill i ddatrys y sefyllfa ariannol er mwyn “dysgu oddi wrth y camgymeriadau… a dychwelyd yn gryfach”.
Mae’r Saraseniaid bellach ar waelod y tabl gyda -7 o bwyntiau ac mae gostwng o’r Uwch Gynghrair yn golygu bod amheuon bellach am ddyfodol chwaraewyr rhyngwladol fel Maro Itoje, Owen Farrell a Billy Vunipola.
Fyddan nhw ddim yn cael cystadlu yn Ewrop y tymor nesaf, hyd yn oed pe baen nhw’n ennill Cwpan y Pencampwyr eleni am fod angen statws Uwch Gynghrair ar glybiau er mwyn bod yn gymwys.