Fe fydd y Prif Weinidog a’r Taoiseach yn cwrdd â gwleidyddion Gogledd Iwerddon ym Melffast ddydd Llun (Ionawr 13) .
Mae disgwyl i Boris Johnson a Leo Varadkar gynnal trafodaethau gyda’r Prif Weinidog Arlene Foster o’r DUP a’r dirprwy Brif Weinidog, Michelle O’Neill, o Sinn Fein yn Stormont.
Daw’r cyfarfod yn sgil cytundeb i adfer y llywodraeth ddatganoldedig, sydd wedi bod yn segur ers tair blynedd.
Fe fydd Boris Johnson yn wynebu cwestiynau ynglŷn â’r addewidion o arian ychwanegol a gafodd eu gwneud gan Lywodraeth San Steffan fel rhan o’r ymdrech i sicrhau bod y cytundeb, “Degawd Newydd, Agwedd Newydd”, yn cael ei gymeradwyo.
“Cyfnod hanesyddol”
Roedd Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon Julian Smith wedi addo buddsoddiad sylweddol i leddfu’r problemau yng ngwasanaethau cyhoeddus y rhanbarth, ond roedd wedi gwrthod cadarnhau faint o arian fyddai’n cael ei roi nes bod y cytundeb wedi’i sicrhau.
Dywedodd Boris Johnson y byddai’r trafodaethau yn Stormont yn canolbwyntio ar y modd roedd y llywodraeth ddatganoldedig yn bwriadu symud ymlaen gyda “diwygiadau hanfodol” i wasanaethau cyhoeddus.
“Mae hyn yn gyfnod hanesyddol i bobol Gogledd Iwerddon,” meddai’r Prif Weinidog cyn ei ymweliad.
Daeth y llywodraeth glymblaid, oedd yn cael ei harwain gan y DUP a Sinn Fein, i ben ym mis Ionawr 2017 yn dilyn ffrae dros gynllun ynni gwyrdd a’r iaith Wyddelig.