Mae’r ddynes gyntaf i gael gadael y carchar dan reolau newydd am reolaeth gymhellol yn dweud y dylid dysgu am drais yn y cartref mewn ysgolion.
Cafodd Sally Challen, sy’n 65 oed, ei charcharu am oes am ladd ei gŵr Richard, 61, â morthwyl yn 2010.
Ond cafwyd hi’n ddieuog gan yr Old Bailey ym mis Ebrill ar ôl i gyfreithwyr ddadlau iddi gael ei chamdrin ers degawdau.
Bu hi a’i mab David, 32, yn annerch sgwrs am drais yn y cartref yn y Senedd neithiwr (nos Fawrth, Ionawr 7).
Wrth ymateb i sylw gan y gynulleidfa y dylid dysgu am drais yn y cartref mewn ysgolion, dywedodd Sally Challen, “Dw i’n cytuno”.
“Dw i ddim yn gwybod sut y gellid ei gyflwyno, ond dw i’n credu bod angen i bobol ifanc wybod beth yw ymddygiad da mewn perthynas a beth sydd ddim,” meddai wedyn.
“Ac os ydych chi’n ceisio addysgu plant – dw i ddim yn gwybod ar ba oedran fydden nhw’n dechrau – yna fe allai arwain at newid.
“Un o’r problemau sydd gyd ni yw fod gyda ni blant sydd mor gyfarwydd â’i weld o fewn eu teuluoedd eu hunain.
“Efallai y gallai cyrsiau mewn ysgolion helpu i dynnu sylw at broblemau yn y cartref i blant sy’n dilyn y cyrsiau hynny.”
Cefndir
Fe gymerodd bron i naw mlynedd i Sally Challen gael mynd yn rhydd.
Yn y pen draw, cyfaddefodd hi ei bod hi wedi lladd ei gŵr ar sail cyfrifoldeb lleihaëdig.
Cafodd ei dedfrydu i garchar am naw mlynedd a phedwar mis, ond roedd hi eisoes wedi treulio’r cyfnod hwnnw yn y carchar, a chafodd ei rhyddhau.
Dywedodd y barnwr yn y llys iddi ddioddef blynyddoedd o gael ei rheoli, ei hynysu a’i sarhau gan ei gŵr, a oedd wedi bod yn ymweld â gweithwyr rhyw drwy gydol eu perthynas, a’i fod e wedi cael sawl perthynas y tu allan i’w priodas.