Mae’r SNP wedi cyhoeddi newidiadau i’w tîm mainc flaen yn San Steffan, gan addo tîm “cryf ac unedig” ar gyfer yr Alban.

Alyn Smith, y cyn-Aelod Seneddol Ewropeaidd, yw llefarydd tramor newydd y blaid, tra bod Mhairi Black wedi’i phenodi’n llefarydd yr Alban.

Alison Thewliss yw’r llefarydd cyllid, Phillipa Whitford yn llefarydd Brexit ac Anne McLaughlin yn llefarydd menywod a chydraddoldeb.

David Linden fydd â chyfrioldeb am dai, cymunedai a llywodraeth leol, tra bydd Kirsten Oswald yn gyfrifol am faterion yn ymwneud â Gogledd Iwerddon a Chymru.

Kirsty Blackman fydd yn arwain y gwaith o baratoi’r cyfansoddiad ar gyfer ail refferendwm annibyniaeth.

“Bydd tîm newydd yr SNP yn San Steffan yn wrthblaid gref ac unedig, a fydd yn sefyll lan dros yr Alban yn wynebu bygythiadau cynyddol Brexit a llywodraeth Dorïaidd eithafol,” meddai Ian Blackford.

“Rwy wrth fy modd o gael croesawu wynebau newydd ac arbenigwyr i dîm mainc flaen yr SNP.”