Byddai cyflwyno Tâl Plant Cymru o £35 yr wythnos yn codi 50,000 o blant allan o dlodi, yn ôl Adam Price.

Dywed arweinydd Plaid Cymru ar drothwy dadl yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Ionawr 8) fod trechu tlodi plant ymhlith blaenoriaethau ei blaid.

Mae plant Cymru heddiw’n wynebu’r perygl mwyaf o fyw mewn tlodi ers 60 o flynyddoedd, meddai, gan ddweud bod rhaid i rieni ddewis rhwng bwydo’u hunain a bwydo’u plant.

Roedd yr addewid i drechu tlodi ymhlith addewidion etholiadol Plaid Cymru ac mae’n dweud y byddai’r cynllun newydd yn “trawsnewid bywydau pobol ifanc yn sylweddol ledled Cymru”.

Ac mae’n cyhuddo Llafur o “ddiffyg strategaeth” i drechu tlodi.

‘Rheoli a datrys problemau’

Yn ôl Adam Price, byddai Llywodraeth Plaid Cymru ar ôl 2021 yn “rheoli a datrys problemau”.

“Mae plant sydd wedi’u geni heddiw yn wynebu’r risg mwyaf o dlodi ers 60 o flynyddoedd,” meddai.

“Rhaid i rieni ddewis rhwng bwydo’u hunain a bwydo’u plant.

“Dydy tyfu i fyny a byw mewn tlodi ddim bellach yn eithriad yng Nghymru. Dyna’r norm.”

“Nid yn unig y byddwn ni’n rheoli problemau. Byddwn ni’n eu datrys nhw.

“Mae tlodi’n ddewis gwleidyddol. Bydd Plaid Cymru’n sicrhau bod Cymru’n gwneud dewis gwahanol.”