Mae pump o bobol yn yr ysbyty yn dilyn sawl achos o ladrata ym Manceinion rhwng 2 a 4 o’r gloch fore heddiw (dydd Sul, Ionawr 5).
Aeth tri dyn at y bobol, sydd rhwng 20 a 60 oed, cyn ymosod arnyn nhw a dwyn eu heiddo.
Mae ymchwiliad ar y gweill i ddod o hyd i’r troseddwyr, sydd rhwng 20 a 40 oed.
Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.