Mae’r heddlu’n ymchwilio i lofruddiaeth dyn 18 oed ar ôl iddo gael ei drywanu i farwolaeth yn Slough.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 7.55 neithiwr (nos Sadwrn, Ionawr 4) yn dilyn adroddiadau bod y dyn wedi’i drywanu yn dilyn ffrwgwd.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty lle bu farw’n ddiweddarach, ac mae ei deulu wedi cael gwybod.

Mae dau o bobol wedi’u harestio ac mae’r ymchwiliad yn parhau.