Mae Lisa Nandy a Jess Phillips yn y ras i arwain y Blaid Lafur, wrth iddyn nhw alw am adfer ffydd yn y blaid yn ei chadarnleoedd traddodiadol.

Mae’r blaid yn wynebu cryn her i ddod dros ei hetholiad gwaethaf ers 1935.

Mae Lisa Nandy, sy’n cynrychioli Wigan ac yn gyn-weinidog cabinet cysgodol, yn dweud bod rhaid i’r arweinydd newydd “fod yn ei chanol hi”, gan alw am gefnu ar “agweddau tadol y gorffennol”.

Ac mae Jess Phillips yn galw am ethol “math gwahanol o arweinydd” i Jeremy Corbyn.

Mae’r ddwy ychydig i’r chwith o ganol y blaid, ac fe fyddan nhw’n herio Emily Thornberry a Clive Lewis am y brif swydd.

Mae disgwyl hefyd i Syr Keir Starmer a Rebecca Long-Bailey gyflwyno’u henwau.

Lisa Nandy

Daeth cadarnhad fod Lisa Nandy yn mynd am yr arweinyddiaeth wrth iddi ysgrifennu llythyr yn y Wigan Post yn galw am “well dealltwriaeth o’r hyn sydd wedi mynd o’i le yn ein system wleidyddol danseiliedig”.

Bu’n aelod seneddol ers 2010, gan ddod yn lladmerydd dros weithredu Brexit ac wfftio galwadau am ail refferendwm.

“Heb yr un oedd unwaith yn gadarnleoedd Llafur, fyddwn ni fyth yn ennill grym yn San Steffan nac yn helpu i adeiladu’r wlad rydyn ni’n gwybod y gallwn ni fod,” meddai.

Mae’n dweud nad yw gweithredu Brexit yn golygu “cefnu ar weddusrwydd, goddefgarwch a charedigrwydd”, a’i bod hi’n torri’i chalon fod y Ceidwadwyr mewn grym o hyd.

Jess Phillips

Daeth cadarnhad fod Jess Phillips yn y ras mewn fideo ar y cyfryngau cymdeithasol, lle mae’n trafod ei magwraeth yn Birmingham.

Mae hi hefyd yn feirniadol o Jeremy Corbyn, gan ddweud bod y Blaid Lafur “mewn cryn drafferth” os na all adennill cefnogaeth y cymunedau dosbarth gweithiol.

Roedd hi o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ac mae hi’n galw am herio Boris Johnson gan ddefnyddio “angerdd, calon a manyldeb”.

Mae hi hefyd yn feirniadol o ymateb Jeremy Corbyn i’r helynt gwrth-Semitiaeth ac o’i ddiffyg eglurder ynghylch ei safbwynt ar Brexit.

“Rhaid i ni fod yn ddewr a thynnu pobol atom ni, nid ceisio edrych i bob cyfeiriad,” meddai.

“Mae ceisio plesio pawb fel arfer yn golygu nad ydyn ni’n plesio neb.”

Daeth hi’n aelod seneddol yn 2015 ar ôl gweithio ym maes Cymorth i Fenywod.

Mewn pôl gan YouGov, Rebecca Long-Bailey yw’r ffefryn, gyda Keir Starmer yn ail a Jess Phillips yn drydydd, a Lisa Nandy ar y gwaelod yn y seithfed safle.

Mae disgwyl i’r ras ddechrau’n ffurfiol ddydd Mawrth (Ionawr 7), ac i’r arweinydd ddechrau yn y swydd ym mis Mawrth.