Mae’r rheiny sydd yn teithio ar drenau yn wynebu “degawd arall o boen”, yn ol grwp ymgyrchu.
Mae’r rhan fwyaf o gwmniau trenau wedi codi’u ffioedd ar dydd Iau, ac ar gyfartaledd mae’r cynnydd yma yn 2.7%.
Ac er bod llai na dau draean o drenau Prydeinig wedi bod ar amser y llynedd, bydd rhai teithwyr yn gorfod talu dros £100 yn fwy eleni i gymudo.
Dim ond 47% o deithwyr sydd yn hapus a phrisiau ticedi, yn ol arolwg diweddar, ac ym marn Railfuture bydd rhagor yn dewis gyrru yn sgil y cynnydd mewn ffioedd.
Heidio i’r ffyrdd
“Croeso i ddegawd arall o boen i deithwyr trenau,” meddai Bruce Williamson, un o aelodau’r grwp pwysau.
“Mae pobol yn mynd i gael eu gorfodi oddi ar drenau – sydd yn dda i’r amgylchedd – ac yn mynd i heidio at ein ffyrdd llygredig a llawn.
“Sut ar y ddaear mae Llywodraeth [y Deyrnas Unedig] yn mynd i wireddu ei ymrwymiadau i’r hinsawdd yn sgil hyn?”
Y sefyllfa yng Nghymru
 
Mae sawl cwmni sydd yn gweithredu yng Nghymru wedi cyhoeddi y bydd eu prisiau hwythau yn cynyddu – yn eu plith mae Great Western Railway a Network Rail.
Ar y llaw arall bydd gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru, yn gostwng o 1.1% ar gyfartaledd.
​ ​