Mae mam dynes a gafwyd yn euog o ddweud celwydd am gael ei threisio gan nifer o bobol yng Nghyprus yn galw am foicotio’r wlad.
Mae’r ddynes yn dweud ei bod hi’n cefnogi ymgyrch i annog pobol i gadw draw o’r wlad, gan ychwanegu fod Ayia Napa, sy’n boblogaidd ymhlith twristiaid, yn “anniogel”.
Mae ei merch 19 oed yn dweud iddi gael ei threisio gan hyd at 12 o ddynion o Israel mewn gwesty ar Orffennaf 17.
Ond cafwyd hi’n euog o ddweud celwydd, a chafodd y dynion rhwng 15 ac 20 oed eu rhyddhau’n ddi-gyhuddiad.
Mae’n dweud bod ei merch yn dioddef o PTSD a salwch iechyd meddwl, a’i bod hi’n cysgu am hyd at 20 awr y dydd yn y ddalfa.
Yn ôl y ddynes, mae angen iddi ddychwelyd i wledydd Prydain i dderbyn triniaeth, ac mae’n dweud ei bod hi wedi bod yn bwriadu mynd i’r brifysgol ar ôl ennill ysgoloriaeth.
Mae mwy nag £80,000 wedi cael ei godi ar-lein i’w helpu gyda’i chostau cyfreithiol ar ôl iddi gael ei gorfodi gan yr heddlu i gyffesu i ddweud celwydd yn y llys.
Mae’r Swyddfa Dramor yn ymchwilio i’r achos ac yn trafod y sefyllfa â’r awdurdodau yng Nghyprus.
Mae’r ddynes 19 oed yn wynebu hyd at flwyddyn o garchar a dirwy o hyd at 1,700 ewro (£1,500) pan fydd hi’n cael ei dedfrydu ddydd Mawrth nesaf (Ionawr 7).