Mae ymchwiliad ar y gweill i’r hyn a all fod wedi peryglu diogelwch y rheini a gafodd eu hanrhydeddu gan y Frenhines yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd.

Mae Swyddfa’r Cabinet wedi ymddiheuro ar ôl i gyfeiriadau cartref pawb a gafodd anrhydedd gael eu cyhoeddi ar-lein.

Ymhlith y mil a mwy o bobl a gafodd eu hanrhydeddu, mae uchel swyddogion yr heddlu, gwleidyddion amlwg, cyn-gyfarwyddwr erlyniadau cyhoeddus a swyddogion o’r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Meddai llefarydd ar ran Swyddfa’r Cabinet:

“Cafodd fersiwn o Restr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2020 a oedd yn cynnwys cyfeiriadau’r derbynwyr ei chyhoeddi mewn camgymeriad.

“Cafodd yr wybodaeth ei dileu cyn gynted ag oedd yn bosibl.

“Ymddiheurwn i bawb y gwnaeth hyn effeithio arnynt, ac rydym yn ymchwilio i sut y digwyddodd hyn.

“Rydym wedi riportio’r mater i Swyddfa’r Comisynydd Gwybodaeth ac yn cysylltu’n uniogyrchol â phawb yr effeithiodd hyn arnynt.”

Cadarnhaodd Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sydd â’r grym i ddirwyo sefydliadau am dorri rheolau data, eu bod yn ymchwilio i’r digwyddiad.