Mae cyflwynydd y rhaglen Love Island, Caroline Flack, wedi gwadu ymosod ar ei chariad, wrth iddi ymddangos gerbron ynadon heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 23).

Honnir bod Caroline Flack, 40, wedi taro Lewis Burton, 27, ar ei ben gyda lamp gan achosi anaf difrifol i’w ben.

Clywodd Llys Ynadon Highbury heddi bod yr ymosodiad honedig wedi digwydd ar ôl iddi ddod o hyd i negeseuon testun ar ei ffon tra ei fod yn cysgu, gan arwain iddi feddwl ei fod yn cael perthynas â rhywun arall.

Ond mae Lewis Burton wedi gwrthod cefnogi’r erlyniad ac yn gwadu ei fod yn ddioddefwr, clywodd y llys.

Cafodd Caroline Flack ei rhyddhau ar fechnïaeth ar yr amod nad yw’n cysylltu gyda Lewis Burton cyn yr achos ar Fawrth 4.

“Perthynas”

Dywedodd Paul Morris ar ran yr amddiffyniad: “Maen nhw wedi bod mewn perthynas drwy gydol y flwyddyn ac mae e yn y llys heddiw i’w chefnogi ac maen nhw’n parhau i fod yn gwpl.”

Roedd Caroline Flack wedi pledio’n ddieuog i gyhuddiad o ymosod. Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig yn ei fflat yn Islington yn Llundain ar Ragfyr 12. Yn ôl yr erlyniad roedd y ddau wedi’u gorchuddio a gwaed pan gyrhaeddodd yr heddlu.

Mae Caroline Flack wedi camu o’i swydd fel cyflwynydd y gyfres newydd o Love Island a fydd yn cael ei ffilmio yn Ne Affrica ym mis Ionawr. Fe fydd Laura Whitmore yn cymryd ei lle.