Mae Americanes wnaeth ffoi o Brydain yn dilyn damwain lle bu farw gyrrwr motobeic 19 oed, wedi ei chyhuddo o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus.
Wedi’r ddamwain yn Northamptonshire ym mis Awst fe adawodd Anne Sacoolas am America, gan fanteisio ar hawliau arbennig oedd ganddi a hithau yn wraig i ddiplomydd.
Ers y ddamwain mae teulu Harry Dunn, a fu farw yn y ddamwain pan oedd Anne Sacoolas yn gyrru ar ochr anghywir y lôn, wedi bod yn pwyso am gyfiawnder.
Bu ansicrwydd a fyddai Anne Sacoolas yn gorfod esbonio’r hyn ddigwyddodd.
Heddiw mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cyhoeddi eu bod wedi cyhuddo’r Americanes o achosi marwolaeth trwy yrru yn beryglus.
Yr wythnos hon fe gyhoeddwyd lluniau o Anne Sacoolas yn gyrru car yn Virginia.