Mae staff cartref gofal ym Mhen Llŷn wedi penderfynu dysgu Cymraeg er mwyn helpu’r preswylwyr – gan gynnwys y dioddefwyr dementia sy’n eu plith.

Mae dementia yn amharu ar y cof ac yn medru gwneud i bobol golli eu hail iaith, ac yn achos Cymry mae hyn yn medru arwain at ddioddefwyr yn colli’u Saesneg.

Er mwyn cynorthwyo’r rheiny sy’n dibynnu’n bennaf ar y Gymraeg, mae dau aelod staff – Chariya Davies, o Wlad Thai; a Seren Jones, o Ferthyr Tudful – wedi penderfynu dysgu’r iaith.

“Mae llawer ohonyn nhw yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf ac felly dw i’n teimlo ei bod hi’n ddyletswydd arnon ni i ddysgu’r iaith,” meddai  Chariya Davies.

“Ar hyn o bryd rydan ni wrth ein boddau’n paratoi at y Nadolig efo’r preswylwyr,” medai Seren Jones.  “Mae hi’n braf iawn eu clywed yn siarad am y Nadolig a’u traddodiadau a hynny yn y Gymraeg.”

Cyrsiau

Mae’r ddwy ofalwraig wedi bod yn dysgu trwy gwrs ‘Cymraeg yn y Gweithle’, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Bangor a’i noddi gan Gyngor Gwynedd.