Mae peidio â chynyddu gwariant ar y Gymraeg yn gyfwerth â thoriadau, yn ôl Cymdeithas yr Iaith.
Cafodd cyllideb ddrafft £20 biliwn Llywodraeth Cymru ei chyhoeddi ar ddechrau’r wythnos, ac amlinellodd ymrwymiad i gadw gwariant ar y Gymraeg yn £20.9m am gyfnod 2020-21.
Ond pryder y mudiad iaith yw bod yna bwysau cynyddol ar fudiadau sy’n dibynnu ar y cyllid yma – mae Urdd Gobaith Cymru, a’r Eisteddfod Genedlaethol yn eu plith.
Ac mae hyn oll, yn eu barn nhw, yn golygu bod gwariant ar y Gymraeg yn cwympo mewn termau real gan £400,000 neu 1.6%.
“Mae rhewi’r gyllideb yn golygu toriad mewn gwirionedd achos chwyddiant,” meddai David Williams o Gymdeithas yr Iaith.
“Mae pob adran wedi derbyn cynnydd eithaf sylweddol yn ei chyllideb, sy’n fwy na chwyddiant, ond eto, mae’r Gymraeg yn dioddef toriadau.
“Onid yw’n anfon neges nad yw Llywodraeth Cymru yn meddwl bod y Gymraeg yn flaenoriaeth? Sut ar wyneb y ddaear all y Gweinidog gyfiawnhau dorri cyllidebau Cymraeg pan fo gyda nhw nod o ddyblu defnydd yr iaith a chynyddu nifer y siaradwyr i filiwn?”
Y Llywodraeth yn anghytuno
Mae Llywodraeth Cymru yn wfftio hynny ac wedi dweud nad yw arian i fudiadau fel yr Eisteddfod a’r Urdd yn cael ei gwtogi.
“Rydym wedi ymrwymo i gynyddu’r nifer o bobl sy’n siarad Cymraeg ac sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd,” meddai.
“Mae cyllidebau iaith Gymraeg yn parhau i fod yn fwy na £37m eleni. Mae cyllidebau craidd ein partneriaid grant wedi cynyddu hefyd o dros filiwn dros y 5 mlynedd diwethaf.”
Mae golwg360 wedi gofyn i’r Urdd a’r Eisteddfod am ymateb.