Mae Boris Johnson wedi dweud ei fod yn ddechrau ar “gyfnod newydd” i wledydd Prydain wrth iddo baratoi i ddod a’r Mesur Brexit gerbron Tŷ’r Cyffredin unwaith eto heddiw (dydd Gwener, Rhagfyr 20).

Dywedodd y Prif Weinidog y bydd yn “gorffen y gwaith” a ddechreuodd yn 20 gyda’r bleidlais dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Ychwanegodd y bydd yn rhoi “sicrwydd” i fusnesau a gwledydd Prydain drwy basio’r Mesur Ymadael ym mis Ionawr.

Yn ystod yr ymgyrch etholiadol roedd arweinydd y Ceidwadwyr wedi rhoi addewid y byddai Brexit yn cael ei “benderfynu” erbyn y Nadolig ac fe fydd yn dod a’r Mesur Ymadael gerbron Aelodau Seneddol ar gyfer ail ddarllenaid yn Nhy’r Cyffredin heddiw.

Ar ôl i’r Ceidwadwyr sicrhau buddugoliaeth sylweddol yn yr etholiad cyffredinol wythnos ddiwethaf gyda mwyafrif o 80 sedd, mae disgwyl i’r bleidlais prynhawn ma gael ei phasio heb unrhyw rwystrau.

Mae disgwyl i’r Medur wedyn gael sêl bendith Frenhinol yn y flwyddyn newydd, a fydd yn paratoi’r ffordd at adael yr UE erbyn Ionawr 31.

Mae newidiadau wedi cael eu gwneud i’r Mesur ers iddo fynd gerbron y Senedd ym mis Hydref.

Mae Boris Johnson wedi ychwanegu cymal a fydd yn atal ei Lywodraeth rhag ymestyn y cyfnod trosglwyddo yn hwyrach na 2020. Fe fydd y cyfnod o 11 mis yn cael ei ddefnyddio i drafod cytundeb masnach gyda Brwsel.

Fe fydd y medur hefyd yn cryfhau grym y llysoedd yn y Deyrnas Unedig, gan roi’r hawl i farnwyr wrthod dyfarniadau sydd wedi cael eu gwneud gan Lys Cyfiawnder Ewrop.