Mae dyn 41 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o hiliaeth yn dilyn gêm ddarbi rhwng timau pêl-droed Manchester City a Manchester United yn Stadiwm Etihad ddoe (dydd Sadwrn, Rhagfyr 7).

Mae fideo o’r digwyddiad wedi cael ei rannu’n helaeth ar y cyfryngau cymdeithasol.

Enillodd Manchester United y gêm o 2-1.