Mae’r Blaid Lafur wedi addo planu dau biliwn o goed erbyn 2040 a chreu 10 parc cenedlaethol newydd fel rhan o’i cynlluniau i ddelio â’r argyfwng amgylcheddol.

Dywed Jeremy Corbyn heddiw (Tachwedd 27) wedi gaddo gwario £3.7 biliwn ar gynlluniau i ddelio â’r argyfwng amgylcheddol.

Mae’r mudiad Ffrindiau’r Blaned wedi croesawu’r newyddion gan ddweud maui dyma’r cynllun planu coed “mwyaf uchelgeisiol o bell ffordd.”

Mae’r blaid hefyd eisiau i’r 10 parc cenedlaethol gael eu hachwenynegu i’r 15 sydd eisoes yn bodoli os y byddan nhw’n ennill yr Etholiad Cyffredinol ar Ragfyr 12.

Er bod y cynllyuniau yma’n ffocysu ar Loegr yn unig, mae’r Blaid Lafur eisiau gweithio gyda llywodraethau’r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon er mwyn sicrhau “rhwydwaith adfer natur” ar draws y Deyrnas Unedig.