Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn dibynnu ar staff amhrofiadol i lenwi bylchau oherwydd prinder nyrsys, yn ôl adroddiad newydd.
Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi dibynnu ar staff tramor, ond mae diffyg nyrsys o’r Undeb Ewropeaidd oherwydd Brexit yn golygu fod y gwasanaeth yn cymryd mwy o stad o welydd megis India a’r Ffilipinas.
Ar hyn o bryd, mae yno 44,000 o swyddi nyrsio gwag ar hyd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a gallai’r ffigwr gynyddu i 100,000 o fewn degawd, yn ôl yr adroddiad.
Addewidion y prif bleidiau gwleidyddol
Mae’r Ceidwadwyr wedi addo 50,000 yn fwy o nyrsys, gyda 18,500 o’r rheini yn dod drwy gadw nyrsys presennol, 12,500 o wledydd tramor, 5,000 drwy aprentisiadau nyrsio a 14,000 drwy hyfforddiant.
Mae’r Blaid Lafur wedi dweud eu bod yn bwriadu cyflogi 24,000 yn fwy o nyrsys ac maen nhw wedi gado gwario mwy na’r Ceidwadwyr ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.