Mae gwasanaeth dysgu ieithoedd ar-lein sydd gan fwy na 300 miliwn o ddefnyddwyr yn bwriadu lansio cwrs Gaeleg yr Albana ar ŵyl Andreas/dydd Sant Andrew.
Cafodd Duolingo ei lansio yn 2011 ac mae 90 iaith ar gael i’w ddysgu arno, gan gynnwys Sbaeneg, Ffrangeg, Cymraeg a Gwyddeleg.
Mae’n debyg fod oddeutu 60,000 o bobol yr Alban yn siarad Gaeleg, ond mae 20,000 o bobol wedi cofrestru ar gyfer y cwrs yn barod.
“Rydym yn gobeithio fod y cwrs yn agor Gaeleg i fyny i filiynau o bobl ar hyd yr Alban a phobl ar hyd a lled y byd,” meddai Duolingo.
Tra bod dirprwy Brif Weinidog yr Alban wedi dweud: “Mae Gaeleg yn rhan hanfodol o hunaniaeth yr Alban ac rydym eisiau sicrhau fod y sawl sydd eisiau dysgu a defnyddio’r iaith yn cael pob cyfle i wneud hynny.”