Mae arweinydd y Blaid Lafur Jeremy Corbyn wedi dweud nad yw Llafur yn goddef gwrth-semitiaeth “o unrhyw fath”.

Daw hyn wedi i’r Prif Rabbi, Ephraim Mirvis ei rybuddio fod ei fethiant i ddelio â’r mater yn ei wneud yn anffit i fod yn Brif Weinidog.

Dywed Jeremy Corbyn fod hiliaeth gwrth-semitaidd yn “ffiaidd ac anghywir” a bod gan ei blaid “system gyflym ac effeithio” i ddelio â chwynion.

Ond wrth ysgrifennu ym mhapur newydd The Times, dywed Ephraim Mirvis fod y ffordd mae’r Blaid Lafur yn delio â chwynion o dan arweinyddiaeth Jeremy Corbyn yn “anghydnaws” â gwerthoedd Prydeinig.