Mae amser yn rhedeg allan i ddod i gytundeb ynghylch rhannu grym yng Ngogledd Iwerddon, yn ôl arweinydd yr Alliance Party.

Daw sylwadau Naomi Long ar ôl i’r DUP a Sinn Fein awgrymu eu bod nhw’n barod i ddechrau trafod eto ar ôl yr etholiad cyffredinol ar Ragfyr 12.

Mae Arlene Foster, arweinydd y DUP, eisoes wedi galw am drafodaethau o’r newydd gyda Sinn Fein ynghylch yr iaith Wyddeleg, gan ddweud na ddylai’r mater fod yn faen tramgwydd yn y trafodaethau.

Ond mae Naomi Long wedi dweud yn lansiad maniffesto ei phlaid yn Belffast heddiw (dydd Llun, Tachwedd 25) fod y ffenest ar gyfer y trafodaethau’n “cau’n gyflym”.

Mae’n dweud ymhellach fod “cyfle wedi’i golli” bob dydd heb drafodaethau, a bod angen i’r pleidiau ddod o hyd i “gyfaddawd”.

Ffrae’r Wyddeleg

 Mae Sinn Fein yn mynnu na fyddan nhw’n dychwelyd i lywodraeth glymblaid gyda’r DUP oni bai eu bod yn cytuno i basio Deddf Iaith Wyddeleg.

Er bod y DUP yn fodlon rhoi rhywfaint o sicrwydd i’r iaith, byddai unrhyw ddeddfwriaeth i warchod yr iaith yn rhan o ddeddfwriaeth ddiwylliannol ehangach a fyddai hefyd yn gwarchod traddodiadau Prydeinig ac Albanaidd Ulster.

Dywed Arlene Foster nad yw hi’n deall pam fod y mater ieithyddol yn atal cynnydd mewn meysydd eraill.

Mae hi’n cynnig ail-sefydlu’r Cynulliad yn Stormont tra bod proses ar wahân yn gyfrifol am ddatrys y mater ieithyddol, ond mae hi’n dweud na all hi wneud hynny heb gefnogaeth y pleidiau eraill.