Mae prinder meddyginiaeth yng ngwledydd Prydain ar gyfer canser y pancreas, yn ôl dogfen sydd wedi’i rhoi i’r wasg yn ystod Mis Canser y Pancreas a diwrnodau’n unig cyn Diwrnod Canser y Pancreas y Byd.
Mae’r prinder hefyd yn effeithio cleifion ag afiechydon y galon, epilepsi, cyflwr Parkinson a phroblemau golwg, yn ôl erthygl yn y Guardian.
Mae’r ddogfen yn nodi bod yna brinder cyffuriau lladd poen ar gyfer y cyflyrau hyn hefyd.
Cafodd y ddogfen ei hanfon at feddygon trwy neges fewnol yn y Gwasanaeth Iechyd ddydd Gwener diwethaf (Tachwedd 15) gyda’r pennawd “masnachol sensitif” ac yn cynnwys manylion am y prinder.
“Mae’r wybodaeth hon yn gyfrinachol i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, peidiwch â’i huwchlwytho i wefannau yn y parth cyhoeddus, os gwelwch yn dda,” meddai’r ddogfen.
Mae meddygon yn dweud bod y prinder yn “ddigynsail”.
Atebion posib
Yn ôl y ddogfen, mae disgwyl i feddygon flaenoriaethu pa gleifion sy’n derbyn meddyginiaethau, a pha rai fydd yn gorfod aros am y cyflenwad nesaf.
Yn achos canser y pancreas, cleifion sydd eisoes yn derbyn triniaeth neu sy’n aros am lawdriniaeth fydd yn cael y flaenoriaeth – sy’n codi cwestiynau am beth fydd yn digwydd yn achos unrhyw gleifion newydd.
Lle bo prinder, mae’r ddogfen yn argymell rhoi gwybod i gleifion y dylen nhw dorri tabledi yn eu hanner, neu newid meddyginiaethau – ond gallai hynny olygu gorfod goruchwylio’r cleifion hynny am gyfnodau, gan roi pwysau ychwanegol ar feddygon.
Yn achos cleifion cyflwr Parkinson a’r llygaid, mae’r ddogfen yn argymell blaenoriaethu cleifion lleol yn sgil prinder a fydd yn para hyd at fis Mawrth.