Mae’r Blaid Lafur wedi cyhuddo’r Ceidwadwyr o “boeni dim” ac o roi darlun anghywir o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi i’r Ysgrifennydd Iechyd, Matt Hancock, honni fod y gwasanaeth, mewn sawl ffordd, yn perfformio’n well nag erioed.
Dangosa ffigyrau newydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol fod y gwasanaeth yn perfformio ar ei lefel waethaf erioed o ran targedau adrannau damweiniau ac achosion brys, gofal canser, a rhestrau aros am lawdriniaethau.
Mae 4.42 miliwn o gleifion ar restrau aros am driniaeth – y ffigwr uchaf erioed.
“Argyfwng”
Mae un ymhob chwe chlaf yn gorfod disgwyl yn rhy hir am driniaeth mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn ôl y ffigurau ac mae amseroedd disgwyl yn hirach ar gyfer triniaethau canser.
Mae elusennau iechyd o’r gred fod y gwasanaeth mewn argyfwng, gyda meddygon yn dweud fod y gwasanaeth yn “datgymalu.”
“Mae hyn yn dangos nad yw’r Torïaid yn poeni dim am ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol,” meddai’r Ysgrifennydd Iechyd cysgodol Jonathan Ashworth.