Mae Boris Johnson wedi cyhoeddi nad yw’n bwriadu penodi comisiynydd newydd i’r Undeb Ewropeaidd, er bod Brwsel wedi gorchymyn fod un yn cael ei benodi.
Anfonodd llysgennad Prydain i’r Undeb Ewropeaidd Syr Tim Barrow lythyr at bencadlys y Comisiwn Ewropeaidd ddydd Iau (Tachwedd 14) yn cadarnhau’r penderfyniad.
Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth: “Rydym wedi ysgrifennu at yr Undeb Ewropeaidd i gadarnhau fod cyfarwyddyd o flaen etholiad yn nodi nad yw’r Deyrnas Unedig fel arfer yn gwneud enwebiad ar gyfer apwyntiadau rhyngwladol yn ystod y cyfnod hwn.”
Mae Boris Johnson wedi dweud droeon na fyddai’n penodi comisiynydd newydd er ei fod wedi methu a chymryd y Deyrnas Unedig allan o’r Undeb Ewropeaidd erbyn Hydref 31.
Mae Llywydd newydd y Comisiwn Ewropeaidd Ursula von der Leyen wedi ysgrifennu at Boris Johnson ddwywaith i orchymyn ei fod yn cynnig enwebiad i’r comisiwn newydd, ynghyd ag oblygiadau’r Deyrnas Unedig fel aelod-wladwriaeth.