Mae’r Blaid Lafur wedi cyhoeddi eu bwriad i fuddsoddi £26 biliwn yn y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr.
Maen nhw’n honni y bydd y gost yn cael ei hariannu drwy godi trethi ar y bobol gyfoethocaf yn y gymdeithas.
Bwriad y “cynllun achub” yw darparu gwasanaeth dibynadwy, recriwtio miloedd o staff ac adnewyddu cyfleusterau ac offer, yn ôl y blaid.
“Mae’r gwasanaeth iechyd penigamp y gallwn ni gyd ddibynnu arno agen buddsoddiad,” meddai John McDonnell, canghellor yr wrthblaid.
“Bydd polisïau Llafur i godi trethi ar y rhai cyfoethocaf yn ein cymdeithas a buddsoddi yn ein dyfodol yn gwella miliynau o fywydau.”