Mae’r Arglwydd Bramall, cyn-bennaeth y lluoedd arfog a wynebodd honiadau ffug am ei ymddygiad rhywiol yn 2015, wedi marw’n 95 oed.
Fe wasanaethodd ym mron bob un o’r rhyfeloedd o’r Ail Ryfel Byd hyd at 1985 cyn ymddeol.
Ar un adeg, ef oedd y milwr uchaf ei statws yng ngwledydd Prydain, ac fe aeth i lu’r reifflau yn 1943 ar ddechrau ei yrfa.
Fe wasanaethodd yn ystod glaniadau Normandy yn 1944, ac fe dderbyniodd e’r Groes Filwrol am ei ddewrder yn 1945.
Fe arweiniodd Luoedd Tir y Deyrnas Unedig rhwng 1976 a 1978, cyn dod yn bennaeth staff amddiffyn yn 1982.
Treuliodd e 26 o flynyddoedd yn Nhŷ’r Arglwyddi, lle’r oedd e’n gwrthwynebu Trident, ac roedd e’n gadeirydd clwb criced yr MCC yn 1988 gan dderbyn teitl Llywydd Oes Anrhydeddus yn 1997.
Honiadau ffug
Yn fwyaf diweddar, mae’n cael ei gofio am ei ran mewn achos llys a arweiniodd at garcharu Carl Beech am 18 o flynyddoedd am ei honiadau ffug am ymddygiad rhywiol aelodau seneddol ac aelodau’r lluoedd arfog.
Cafodd ei gartref ei archwilio yn 2015 yn dilyn yr honiadau gan “ffantasïwr” oedd yn cael ei adnabod wrth yr enw ‘Nick’.
Bu farw ei wraig y flwyddyn honno cyn i’r ymchwiliad ddod i ben heb ei gyhuddo, ac fe wnaeth y Fonesig Cressida Dick, pennaeth Heddlu Llundain, ymddiheuro’n bersonol wrtho.
Ymhlith y rhai sydd wedi talu teyrnged iddo mae’r Arglwydd Heseltine, y Fonesig Cressida Dick a Harvey Proctor, aelod seneddol arall oedd yn wynebu cyhuddiadau fel rhan o’r ymchwiliad.