Mae cwch yn cludo 22 o ffoaduriaid wedi dod i’r lan ger Dover.
Daeth yr awdurdodau o hyd i’r cwch yn ystod oriau man fore heddiw (dydd Sul, Tachwedd 10).
Mae’r 22 wedi derbyn triniaeth feddygol ac maen nhw bellach yn cael eu holi gan swyddogion mewnfudo.
Dydy hi ddim yn glir pwy ydyn nhw nac o ble maen nhw wedi dod.
Cafodd 20 o ffoaduriaid eu cludo i ddiogelwch ddydd Gwener (Tachwedd 8).